Ymateb ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru i argymhellion a wnaed gan Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol - Gwrandawiad cyn penodi: Yr ymgeisydd a ffefrir ar gyfer swydd Cadeirydd Chwaraeon Cymru – Y Farwnes Tanni Grey-Thompson DBE DL

 

Yn dilyn ymgyrch Penodiadau Cyhoeddus ar gyfer penodi Cadeirydd – Chwaraeon Cymru, yr ymgeisydd a ffefrir oedd y Farwnes Tanni Grey-Thompson

 

Mae'r ymgeiswyr a ffefrir ar gyfer penodiadau arwyddocaol fel Cadeiryddion yn destun gwrandawiad cyn penodi.  Cynhaliwyd y gwrandawiad cyn penodi gyda'r Farwnes Thompson ym mis Mawrth 2022 ac fe'i cymeradwywyd fel yr ymgeisydd llwyddiannus.

 

Gwnaeth y Pwyllgor yr argymhellion canlynol ac mae ymateb Llywodraeth Cymru i'w weld isod:  

 

Argymhelliad 1: Mae'r Pwyllgor yn argymell bod y Farwnes Grey-Thompson yn cael ei phenodi'n Gadeirydd Chwaraeon Cymru.

 

Ymateb Llywodraeth Cymru: Derbyn.

 

Rydym yn ddiolchgar i'r Pwyllgor am ei waith craffu cyn penodi ar yr ymgeisydd a ffefrir ac am gyhoeddi ei adroddiad yn brydlon. Rydym yn falch bod y Farwnes Grey-Thompson bellach wedi'i chadarnhau fel Cadeirydd newydd Chwaraeon Cymru. Bydd ei thymor 3 blynedd yn dechrau ar 4 Gorffennaf 2022. 

 

Argymhelliad 2: Mae'r Pwyllgor yn argymell y dylid ystyried sicrhau bod cyfarfod anffurfiol gyda'r Pwyllgor hwn yn cael ei gynnal yn gynnar a thrwy gydol cyfnod Cadeirydd Chwaraeon Cymru.

 

Ymateb Llywodraeth Cymru: Derbyn.

 

Rydym yn cytuno y byddai'n fuddiol i'r Pwyllgor gael cyfarfod anffurfiol gyda Chadeirydd newydd Chwaraeon Cymru cyn gynted â phosibl, ynghyd ag unrhyw gyfarfodydd pellach, fel y bo'n briodol, drwy gydol ei chyfnod yn y swydd.

 

Argymhelliad 3. Mae'r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ystyried pa gamau pellach y gall eu cymryd i gynyddu amrywiaeth ethnig ymgeiswyr ar gyfer penodiadau cyhoeddus.

 

Ymateb Llywodraeth Cymru: Derbyn.

 

Mae Chwaraeon Cymru wedi cyflawni cynnydd cadarnhaol yn ystod y blynyddoedd diwethaf i wella amrywiaeth aelodaeth y Bwrdd. Fodd bynnag, rydym yn cytuno bod angen gwneud mwy i wella amrywiaeth ymgeiswyr ar draws holl benodiadau cyhoeddus Cymru. Mae Uned Cyrff Cyhoeddus Llywodraeth Cymru yn parhau i fwrw ymlaen â gwaith yn hyn o beth drwy Adlewyrchu Cymru wrth Redeg Cymru - Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant ar Gyfer Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru (2020-2023) (llyw.cymru), a byddai'n hapus i ddarparu briff ffeithiol i'r Pwyllgor ar y camau y mae'n eu cymryd.